04/07/2023 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 04/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/07/2023   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

 

Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                   

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun Ffermio Cynaliadwy (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Cenedl Masnach Deg – nodi 15 mlynedd (30 munud)
  • Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 12 Gorffennaf 2023

 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25 (60 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Craffu ar y Fframweithiau Cyffredin (30 munud)
  • Dadl ar y cyd y Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 12 Medi 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                   

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd 2020-21 (30 munud)

 

 

Dydd Mercher 13 Medi 2023

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Anghynaliadwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 19 Medi 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023 (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 20 Medi 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022 – 23 (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)