06/02/2018 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/02/2018

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 13 Chwefror 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cynllun Gwaith Polisi Treth 2018, gan gynnwys Trethi Newydd (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf (45 munud)
  • Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
    • Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018
    • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol (15 munud)
  • Dadl:  Setliad terfynol yr Heddlu 2018-19 (60 munud)
  • Dadl:  Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) (60 munud)
  • Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) (5 munud)

     

Dydd Mercher 14 Chwefror 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl fer – Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Toriad – Dydd Llun 19 Chwefror 2018 - Dydd Sul 25 Chwefror 2018

 

Dydd Mawrth 27 Chwefror 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Wasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cyrhaeddiad Uchel - Cefnogi ein Dysgwyr Mwy Abl a Dawnus (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Mapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y diweddaraf am Ymchwiliad y DU i Waed Heintiedig (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Ailgylchu yng Nghymru (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) (15 munud)


Dydd Mercher 28 Chwefror 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
  • Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 6 Mawrth 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwerthfawrogi Gweithlu'r GIG (45 munud)
  • Rheoliadau Gorfodaeth Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 (15 munud)
  • Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 (15 munud)
  • Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2017-18 (30 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2016-17 (60 munud)


Dydd Mercher 7 Mawrth 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar y Ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)