Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (60 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Digidol mewn Addysg Bellach (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Ymateb Dyngarol i Wcráin (30 munud)
- Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 (15 munud)
- Dadl: Setliad yr Heddlu 2023-24 (30 munud)
Dydd Mercher 15 Chwefror 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
- Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
- Dadl Fer: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)
- Dadl Fer: Sian Gwenllian (Arfon) (30 munud)
Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymru: cymuned o gymunedau (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymwrthedd Gwrthficrobaidd – Cynnydd Cynllun 5 mlynedd Cymru ar gyfer Anifeiliaid a'r Amgylchedd (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol: Gwaith Teg: Cynnydd Blynyddol a Blaenoriaethau (30 munud)
- Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (5 munud)
- Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 (5 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (15 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2021-22 (60 munud)
Dydd Mercher 1 Mawrth 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)
- Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru (15 munud)
- Dadl: Cyllideb Derfynol 2023-24 (60 munud)
- Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2023-24 (60 munud)
- Dadl: Cyfnod 3 y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (180 munud)
Dydd Mercher 8 Mawrth 2023
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
- Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (60 munud)