08/10/2013 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 15 Hydref a dydd Mercher 16 Hydref 2013

Dydd Mawrth 22 Hydref a dydd Mercher 23 Hydref 2013

Toriad: Dydd Llun 28 Hydref 2013 - Dydd Sul 3 Tachwedd 2013

Dydd Mawrth 5 Tachwedd a dydd Mercher 6 Tachwedd 2013

***********************************************************************

Dydd Mawrth 15 Hydref 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cyflwyno'r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (60 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Llwyddiant Ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i Gyllido a Hwyluso'r Gwaith o Gyflogi 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol (30 munud)

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Bysiau Arriva Cymru (30 munud)

  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:  “Gweithio gyda'n gilydd i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru - Adolygiad Cymru 2012-13” (60 munud)

  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2012-13 (60 munud)

Dydd Mercher 16 Hydref 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)

  • Cynnig i gytuno ar daliadau aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)

  • Cynnig i ddiwygio RhS18 mewn cysylltiad â Chyfrifon Cyhoeddus ac arolygiaeth Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)

  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid (5 munud)

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

NNDM5325

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod risg uchel llusernau awyr i ddiogelwch y cyhoedd, i adeiladau a strwythurau, ac i les anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i rinweddau cyfyngu ar ryddhau llusernau awyr yng Nghymru.

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr Ymchwiliad i weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol (60 munud)

  • Dadl i geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Llythrennedd Ariannol (Bethan Jenkins) (60 munud)

  • Dadl Fer - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)

Dydd Mawrth 22 Hydref 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru (30 munud)

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: System Drafnidiaeth Integredig De-ddwyrain Cymru (30 munud) – wedi’i symud o 15 Hydref

  • Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 (15 munud)

  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (60 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (5 munud)

  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2012-2013 (60 munud)

Dydd Mercher 23 Hydref 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref (60 munud)

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru (60 mins)

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cynnydd o ran Troi tai'n Gartrefi (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: 'Teithio at Ddyfodol Gwell' - Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflenwi ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Creu Cymwysterau Cymru (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y cyfleoedd a'r heriau y mae'r Sector Coedwigaeth yng Nghymru yn eu hwynebu (30 munud)

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Gofal (15 munud)

  • Dadl: Cymorth i'r Lluoedd Arfog yng Nghymru (60 munud)

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer - Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)