09/11/2010 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 16 Tachwedd a dydd Mercher 17 Tachwedd 2010

Dydd Mawrth 23 Tachwedd a dydd Mercher 24 Tachwedd 2010

Dydd Mawrth 30 Tachwedd a dydd Mercher 1 Rhagfyr 2010

………………………………………….

Dydd Mawrth 16 Tachwedd 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Adroddiad ar yr Adolygiad o’r Tribiwnlysoedd sy’n Gweithredu yng Nghymru (30 munud)

  • Dadl ar Fudd-dal Tai (60 munud)  

  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pob Hyn Cymru (60 munud)

  • Dadl ar effaith gymdeithasol yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant (60 munud)

Dydd Mercher 17 Tachwedd 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth (30 munud)

Busnes y Cynulliad:

  • Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau (5 munud)

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

Busnes heblaw Busnes y Llywodraeth:

  • NNDM4583 Eleanor Burnham, Alun Davies, Nick Bourne a Rhodri Glyn Thomas – Dyfodol Darlledu Cymraeg (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl Fer (30 munud)

Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (15 munud)  

  • Dadl ar Wasanaethau Gyrfaoedd (60 munud)

  • Dadl ar y cynnydd o ran rhoi rhaglen ‘Cymru’n Un’ Llywodraeth Cynulliad Cymru ar waith (60 munud)

Dydd Mercher 24 Tachwedd 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)  

  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 munud)

Busnes heblaw Busnes y Llywodraeth:

  • Dadl Cyfnod 1 ar Fesur arfaethedig Ann Jones, sef Mesur Arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru) (60 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, ‘Cyllidebu ar gyfer Plant yng Nghymru’ (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl Fer (30 munud)

Dydd Mawrth 30 Tachwedd 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 (30 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 ar Fesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) (120 munud)

        Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, caiff gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.

        Ar ddiwedd Cyfnod 3, gall y Gweinidog gynnig bod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58:

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru).

Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2010

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (30 munud)   

Busnes heblaw Busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Ddysgu ac Addysgu Cymraeg fel Ail Iaith (60 munud)

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, ‘Gwneud yn Fawr o Ddigwyddiadau Chwaraeon Mawr yng Nghymru’ (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl Fer (30 munud)