10/03/2015 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 10/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2015

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
 
Dydd Mawrth 17 Mawrth 2015 a Dydd Mercher 18 Mawrth 2015
Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015 a Dydd Mercher 25 Mawrth 2015
Toriad: Dydd Llun 30 Mawrth 2015 – Dydd Sul 19 Ebrill 2015
Dydd Mawrth 21 Ebrill 2015 a dydd Mercher 22 Ebrill 2015

 

Dydd Mawrth 17 Mawrth 2015   

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
• Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
• Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar: Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Mynediad at Gyllid (30 munud)
• Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 (15 munud) 
• Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Diwygio) 2015 (15 munud)
• Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth (Memorandwm rhif 4): Diwygiad i Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 mewn perthynas â diogelu chwythwyr chwiban yn y GIG (30 munud)
• Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (15 munud)
• Dadl ar Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2013 – 2014 (60 munud)
• Dadl ar Gyflog Cyfartal (60 munud)

Dydd Mercher 18 Mawrth 2015

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
• Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

• Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
(60 munud)
• Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
• Dadl Fer – Leanne Wood (Canol De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015  

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
• Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
• Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y diweddaraf ar gamau gweithredu sy'n deillio o adroddiadau'r Pwyllgor Menter a Busnes (30 munud)
• Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cryfhau Polisi Caffael (30 munud)
• Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (30 munud)
• Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 (15 munud)
• Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru (60 munud)
• Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ar Fesur Cymwysterau Cymru (5 munud)


Dydd Mercher 25 Mawrth 2015

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)
• Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

Busnes y Cynulliad

• Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
• Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 21 Ebrill 2015  

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
• Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
• Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
• Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) (5 munud)
• Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) (5 munud)
• Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 22 Ebrill 2015

Busnes y Llywodraeth

• Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
• Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

Busnes y Cynulliad

• Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
• Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
• Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
• Dadl Fer (30 munud)