16/03/2021 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 16/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Covid-19: Flwyddyn yn Ddiweddarach (45 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd – strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru – Cymru wrthhiliol (30 munud)
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
    • Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
    • Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021
  • Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021 (10 munud)
  • Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (5 munud)
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 (15 munud)
  • Dadl: Diwygiadau i Setliadau Llywodraeth Leol a’r Heddlu 2020-21 (15 munud)

 

Dydd Mercher 24 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg (45 munud)
  • Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021(15 munud)
  • Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (15 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
    • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi
    • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd
    • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd
    • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice
    • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adalw’r Senedd
    • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau
    • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol
    • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol (15 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 05-21 (15 munud)
  • Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Archwilio datganoli darlledu: sut all Cymru feddu ar y cyfryngau sydd eu hangen arni? (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
  • Dadl Fer: Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)
  • Datganiadau i Gloi (30 munud)