22/10/2013 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Toriad: Dydd Llun 28 Hydref 2013 - Dydd Sul 3 Tachwedd 2013

Dydd Mawrth 5 Tachwedd a dydd Mercher 6 Tachwedd 2013

Dydd Mawrth 12 Tachwedd a dydd Mercher 13 Tachwedd 2013

Dydd Mawrth 19 Tachwedd a dydd Mercher 20 Tachwedd 2013

***********************************************************************

Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cynnydd o ran Troi Tai'n Gartrefi (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Teithio at Ddyfodol Gwell - Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflenwi ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Creu Cymwysterau Cymru (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Cyfleoedd a'r Heriau y mae'r Sector Coedwigaeth yng Nghymru yn eu Hwynebu (30 munud)

  • Dadl: Cymorth i'r Lluoedd Arfog yng Nghymru (60 munud)

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer - Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Gynhadledd Fawr - y camau nesaf (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Paratoadau ar gyfer Tywydd y Gaeaf (30 munud)

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru: Yr Ail Adroddiad (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 (15 munud)

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol (15 munud)

  • Dadl: Cynlluniau'r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol i fod yn Barod ar gyfer y Gaeaf (60 munud)

Dydd Mercher 13 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Bresenoldeb ac Ymddygiad (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Dadl fer - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)

Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cyflwyno'r Bil Tai (Cymru) (60 munud)

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarthau (30 munud)

  • Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013 (15 munud)

  • Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2014-15 (60 munud)

  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13 (60 munud)

Dydd Mercher 20 Tachwedd 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15 (30 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl Rheol Sefydlog 26.44 Cyfnod 3 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (5 munud)

  • Dadl Fer - Keith Davies (Llanelli) (30 munud)