24/06/2020 - ​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 24/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/06/2020

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2020

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit - yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol" (30 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)

Busnes y Llywodraeth

  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Argyfwng Hinsawdd (45 mins)
  • Dadl: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 (15 munud)

Busnes y Senedd

  • Dadl y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar Economi, Seilwaith a Sgiliau Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)


 

Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2020


Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)

Busnes y Llywodraeth

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ffermio Cynaliadwy: dyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth (45 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (60 munud)

Busnes y Senedd

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2020

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)

Busnes y Llywodraeth

  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (30 munud)
  • Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 (15 munud)
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020  (15 munud)
  • Dadl: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ac Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (15 munud)

Busnes y Senedd

  • Dadl Pwyllgor Cyllid - Blaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22, yn sgil Covid 19 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)