Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol - Adroddiad (45 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd - Mesurau Datblygu Economaidd (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (45 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) (15 munud)
- Dadl ar Doll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli (60 munud)
Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)
Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (45 munud)
- Datganiad gan y Prif Weinidog: Partneriaeth Gymdeithasol (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy (45 munud)
- Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o'r Corff (Cymru) 2019 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (15 munud)
- Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020 (30 munud)
Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru (60 munud)
- Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Rhagolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru (45 munud)
- Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach - Flwyddyn Yn Ddiweddarach (45 munud)
- Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (15 munud)
- Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019 (15 munud)
- Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019 (15 munud)
- Dadl ar Gyfnod 4 y Bil Deddfwriaeth (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2019
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018 - 19 (30 munud)
- Dadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a'r Pwyllgor Cyllid: Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer Mark Reckless (Dwyrain De Cymru) (30 munud)