26/01/2016 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 26/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/01/2016

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

Dydd Mawrth 2 Chwefror 2016 a dydd Mercher 3 Chwefror 2016
Dydd Mawrth 9 Chwefror 2016 a dydd Mercher 10 Chwefror 2016

Toriad: Dydd Llun 15 Chwefror 2016 – Dydd Sul 21 Chwefror 2016

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2016 a dydd Mercher 24 Chwefror 2016

 

 

Dydd Mawrth 2 Chwefror 2016 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2016 (15 munud)
  • Dadl Cyfnod 4 ar Fil yr Amgylchedd (Cymru) (15 munud)
  • Dadl Cyfnod 3 ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (180 munud)

    Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae'r adrannau a'r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y cynnig. Os nad yw'r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae'r adrannau a'r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

 

Dydd Mercher 3 Chwefror 2016

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei ymchwiliad i Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd (60 munud)
  • Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (120 munud)
  • Dadl Fer – Llŷr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2016 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl: Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: 
    • Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 (15 munud)
    • Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016 (15 munud)
  • Dadl: Gorchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 (15 munud)
  • Dadl: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Cyfnod 4 (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Ddrafft 2016-17 (120 munud) 

     

Dydd Mercher 10 Chwefror 2016

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Waith Athrawon Cyflenwi (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (15 munud)
  • Dadl fer - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2016 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Y diweddaraf am y Rhaglen Buddsoddi i Arbed (30 munud)
  • Dadl ar Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (15 munud)
  • Dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai a Chynllunio ynghylch rhyddfreinio ac ymestyn lesddaliadau hir (30 munud)
  • Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn (60 munud)
  • Dadl ar Adolygiad y Mesur Iechyd Meddwl (60 munud)

     

Dydd Mercher 24 Chwefror 2016

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
     

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (60 munud)
  • Dadl ar yr adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithgareddau cynrychiolwyr Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau yr UE (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer – Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)