26/01/21 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 26/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/01/2021   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 2 Chwefror 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Adolygiad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
    • Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
    • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
    • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 (15 munud)

 

Dydd Mercher 3 Chwefror 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Clyw fy nghân: Ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
  • Dadl Fer – Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gweithio mewn Partneriaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth (30 munud)
  • Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022 (90 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)

 

Dydd Mercher 10 Chwefror 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (150 munud)

 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
  • Dadl Fer – David Melding (Canol De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Genhadaeth o ran Cadernid ac Ailadeiladu Economaidd (45 munud)
  • Datganiad gan Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Rhaglen Datblygu Gwledig ddomestig yn y dyfodol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Effaith Drawsnewidiol Diwygio Cyllid Myfyrwyr (30 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Yr Economi Sylfaenol (30 munud)
  • Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (15 munud)

 

Dydd Mercher 24 Chwefror 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud)
  • Dadl Fer – Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)