27/11/2012 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 12/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 4 Rhagfyr a dydd Mercher 5 Rhagfyr 2012

Toriad: 10 Rhagfyr 2012 – 6 Ionawr 2013

Dydd Mawrth 8 Ionawr a dydd Mercher 9 Ionawr 2013

Dydd Mawrth 15 Ionawr a dydd Mercher 16 Ionawr 2013

****************************************************************************************

Dydd Mawrth 4 Rhagfyr 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)  

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gyflwyno'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (60 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar gyfeiriad Rheoleiddio a Chymwysterau yng Nghymru yn y dyfodol (30 munud)

  • Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dwr ac Ansawdd Dwr) (Ffioedd Arolygu) 2012 (15 munud)

  • Dadl ar y Gyllideb Flynyddol (60 munud)

  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (60 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (5 munud)

Dydd Mercher 5 Rhagfyr 2012

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Datganiad gan Mick Antoniw: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (30 munud) - gohiriwyd ers 28 Tachwedd

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Atal Thrombo-emboledd Gwythiennol Ymhlith Cleifion Mewn Ysbytai (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Dadl fer – Ken Skates (De Clwyd) (30 munud)

Busnes y Llywodraeth

  • Cynnig i atal dros dro Reol Sefydlog 27.7 sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod y rheoliadau sy'n ymwneud â Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 20 niwrnod cyn y gellir eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn (5 munud)

  • Cynnig i atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y ddwy eitem nesaf o fusnes (5 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) (15 munud)

Dydd Mawrth 8 Ionawr 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)   

  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar NEET ac Ymgysylltiad â Phobl Ifanc (30 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ar yr Ymgynghoriad ar Raglenni'r Cronfeydd Strwythurol ar gyfer 2014-202 (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar ailddechrau defnyddio eiddo gwag: y cynllun Troi Tai'n Gartrefi (30 munud)

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus - cymalau sy'n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i gynlluniau newydd (15 munud)

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol (15 munud)

  • Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol (60 munud)

Dydd Mercher 9 Ionawr 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Dadl Fer (30 munud)

Dydd Mawrth 15 Ionawr 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (60 munud)

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau amgylcheddol trefol yng Nghymru (30 munud)

  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Trosedd a Llysoedd mewn perthynas â Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (15 munud)

  • Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig: Cynnig cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).”

  • Dadl ar wneud y gorau o Bolisi Caffael Cymru (60 munud)

Dydd Mercher 16 Ionawr 2013

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Dadl ar adroddiad byr y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Ddiogelu'r Arfordir (60 munud)

  • Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i fabwysiadu (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Dadl Fer (30 munud)