29/04/2008 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 6 Mai a dydd Mercher 7 Mai 2008

Dydd Mawrth 13 Mai a dydd Mercher 14 Mai 2008

Dydd Mawrth 20 Mai a dydd Mercher 21 Mai 2008

Dydd Mawrth 6 Mai 2008

Busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad a chyhoeddiad busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth am Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (30 munud)

  • Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai am fynediad (30 munud)

  • Trafodion Cyfnod 3 o’r Mesur ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG yn unol â Rheol Sefydlog 23.44 (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, mae’r gwelliannau i gael eu cwblhau yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig. Ar ôl cwblhau Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58

Dydd Mercher 7 Mai 2008

Busnes y Llywodraeth 12.30pm - 2.00pm:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 munud)

  • Datganiad gan Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau : Y Cyfnod Sylfaen (30 munud)

Busnes y Cynulliad a busnes heblaw busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

2.00pm - 5.30pm Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ynghylch Gwasanaethau Eirioli ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (60 munud)

  • Dadl yn ceisio caniatâd y Cynulliad i gyflwyno Mesur Arfaethedig Aelod ynghylch ailgylchu (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd ar gyfer Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl fer (30 munud)

………………………………………….

Dydd Mawrth 13 Mai 2008

Busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad a chyhoeddiad busnes (30 munud)

  • Dadl ar y Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau (60 munud)

  • Dadl ar safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yn sgil adroddiad ESTYN (60 munud)

Dydd Mercher 14 Mai 2008

Busnes y Llywodraeth 12.30pm - 2.00pm:

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (30 munud)

Busnes y Cynulliad a busnes heblaw busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

2.00pm - 5.30pm Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl yn ceisio caniatâd y Cynulliad i gyflwyno Mesur Arfaethedig Aelod ynghylch gwasanaethau ieuenctid (60 munud)

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar leihau allyriadau carbon yn y cartref (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl Fer (30 munud)

………………………………………….

Dydd Mawrth 20 Mai 2008

Busnes y Llywodraeth 12.30pm - 2.00pm:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad a chyhoeddiad busnes (30 munud)

  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo’r gorchymyn, The Legislative Reform (Local Authority Consents) Order (England and Wales) (15 munud)

Dydd Mercher 21 Mai 2008

Busnes y Llywodraeth 12.30pm - 2.00pm:

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig (30 munud)

Busnes y Cynulliad a busnes heblaw busnes y Llywodraeth 2.00pm - 5.30pm:

2.00pm - 5.30pm Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar leihau allyriadau carbon trafnidiaeth (60 munud)

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar yr Ymchwiliad i Gynllunio Gweithlu yn y Gwasanaeth Iechyd ac ym Maes Gofal Cymdeithasol (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd ar gyfer Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

  • Cyfnod pleidleisio

  • Dadl Fer (30 munud)