29/11/2016 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 29/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2016

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddir agenda'r Cyfarfod Llawn wythnos cyn pob cyfarfod, a gellir ei gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
dydd Mawrth 6 a dydd Mercher 7 Rhagfyr 2016
dydd Mawrth 13 a dydd Mercher 14 Rhagfyr 2016
Toriad: dydd Llun 19 Rhagfyr 2016 – dydd Sul 8 Ionawr 2017
dydd Mawrth 10 a dydd Mercher 11 Rhagfyr 2017

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr 2016 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Canlyniadau PISA (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Ynni (30 munud)
  • Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 (15 munud)
  • Dadl ar Gyllideb Ddrafft 2017-18 (120 munud)

Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2016

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
  • Dadl fer - John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)

Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 2016 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (60 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Troseddol (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol (15 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau Taladwy) (Cymru) 2016 (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
    • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (ehangu ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") 2016
    • Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) Rheoliadau 2016

 

Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2016 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Toriad: Dydd Llun 19 Rhagfyr 2016 - Dydd Sul 8 Ionawr 2017 

 

Dydd Mawrth 10 Ionawr 2017 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18 (60 munud)
  • Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (60 munud)
  • Dadl: Penderfyniad Ariannol ar y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (5 munud)

Dydd Mercher 11 Ionawr 2017

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)