Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 29 Ebrill 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Addysg Ryngwladol (45 munud)
- Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (5 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
- Egwyddorion Cyffredinol y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)
- Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)
Dydd Mercher 30 Ebrill 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Mabon ap Gwynfor AS (Dwyfor Meirionnydd) (30 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Ugeinfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Jenny Rathbone AS (Canol Caerdydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 6 Mai 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwrnod VE (45 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Data (Defnydd a Mynediad) (15 munud)
- Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) (5 munud)
- Cyfnod 3 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (180 munud)
Dydd Mercher 7 Mai 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Ymchwiliad dilynol i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cyfoeth Naturiol Cymru : Atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Sam Rowlands AS (Gogledd Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 13 Mai 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Trawsnewid Trefydd ac Adfywio (45 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diweddariad ar y Cynllun Dileu TB (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 2025-26 Cyflawni Gweithredu ar gyfer Gwell Iechyd a Gofal (45 munud)
- Cyfnod 4 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (15 munud)
- Cyfnod 3 Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) (30 munud)
Dydd Mercher 14 Mai 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-06-1482: Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Heledd Fychan AS (Canol De Cymru) (30 munud)