Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 10 Chwefror 2026
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Wythnos Prentisiaethau (45 munud)
- Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026 (5 munud)
- Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 (15 munud)
- Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 (5 munud)
- Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026 (5 munud)
- Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026 (10 munud)
- Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026 (15 munud)
- Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026 (5 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) (15 munud)
- Penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) (15 munud)
- Dadl: Cyfnod 4 Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) (15 munud)
- Dadl: Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (180 munud)
Dydd Mercher 11 Chwefror 2026
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.40 mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) (15 mins)
- Dadl Fer: Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)
- Dadl Fer: Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cynllun Buddsoddi Cronfa Twf Lleol Cymru (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Cefnogi’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Cymunedau Cymraeg (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gefnogol a Chynhwysol ar gyfer Dyfodol Mwy Disglair (30 munud)
- Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 (15 munud)
- Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 (10 munud)
- Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 (15 munud)
- Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 (10 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Troseddu a Phlismona (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynlluniau Pensiwn (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) (60 munud)
- Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) (5 munud)
- Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 25 Chwefror 2026
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Teithio Llesol yng Nghymru (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gwasanaethau
- Offthalmoleg yng Nghymru (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Buffy Williams (Rhondda) (30 munud)
Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026 (5 munud)
- Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026 (10 munud)
- Rheoliadau Datganiadau Blynyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 (10 munud)
- Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygio) 2026
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Plant ac Ysgolion (30 munud)
- Dadl: Setliad yr Heddlu 2026-27 (15 munud)
- Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Gwahardd Rasio Ligwn (Cymru) (5 munud)
- Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) (5 munud)
- Dadl: Cyfnod 3 Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) (180 munud)
Dydd Mercher 4 Mawrth 2026
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru (5 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Rhianon Passmore AS (Islwyn) (30 munud)
- Cyfnod 3 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (120 munud)