Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 04/11/25

Cyhoeddwyd 04/11/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/11/2025

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes                       

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: COP30 ac Wythnos Hinsawdd Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol ar Gam-drin Pobl Hŷn (45 munud)
  • Dadl: Cofio (60 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
  • Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
  • Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

 

Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud) 
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cyfoeth Naturiol Cymru: Ymateb i stormydd diweddar (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Sioned Williams AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cartrefi Fforddiadwy (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Canlyniad yr Adolygiad Mewnol o Gymorth Busnes (45 munud)
  • Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 (15 munud)
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) (Rhif 2) 2025 (5 mins)
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) (Rhif 3) 2025 (5 mins)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud) 
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27 (30 munud)
  • Dadl Agored (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Presenoldeb ac Ymddygiad mewn Ysgolion (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gwella Amseroedd Aros (45 munud)

 

 

Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)

 

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Adam Price (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Llwybrau prentisiaeth (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Peter Fox AS (Mynwy) (30 munud)