Datganiad a Chyhoeddiad Busnes  06/05/2025

Cyhoeddwyd 06/05/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/05/2025

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn        

 

Dydd Mawrth 13 Mai 2025

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                          

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Trawsnewid Trefi ac Adfywio Canol Trefi (45 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Fframwaith Gwydnwch Cymru a’r Cynllun Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diweddariad ar y Rhaglen Dileu TB Buchol (45 munud)
  • Cyfnod 4 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (15 munud)
  • Cyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mercher 14 Mai 2025

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Luke Fletcher AS (Gorllewin De Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Heledd Fychan AS (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

Dydd Mawrth 20 Mai 2025

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                            

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Blaenoriaethau Diwylliant (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Diweddariad ar Ddigwyddiadau Mawr (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Rhentwyr (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg (15 munud)
  • Cyfnod 4 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) (15 munud)

 

Dydd Mercher 21 Mai 2025

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2024 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Mick Antoniw AS (Pontypridd) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth  3 Mehefin 2025

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                           

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Wythnos Gwirfoddoli (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Camau Gweithredu 2025-26 i Wella Iechyd a Gofal (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Y Cynllun Hawliau Pobl Anabl (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Amseroedd Aros a Blaenoriaethau 2025/26 (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Taith (45 munud)

 

Dydd Mercher 4 Mehefin 2025

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1476: Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths AS (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)