Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 07/10/25

Cyhoeddwyd 07/10/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/10/2025

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes            

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

 Dydd Mawrth 14 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27 (90 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diweddariad ar y Diwygiadau ADY (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Mae Casineb yn Brifo Cymru (45 munud)
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025 (15 munud)
  • Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025 (15 munud)
  • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003) (Cymru) 2025 (5 munud)

 

Dydd Mercher 15 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud) 
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adam Price AS (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) 
  • Dadl Fer: Altaf Hussain AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud) 

 

 

Dydd Mawrth 21 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth                                                                                        

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Cefnogi Cymunedau Cymru (45 munud)
  • Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 (15 munud)
  • Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 (5 munud)
  • Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025 (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2025-26 (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 22 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar ddeiseb: P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Codi tâl am arddangosfeydd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Laura Ann Jones (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 4 Tachwedd 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) (60 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Yr Ardoll Gamblo – Gwasanaethau Triniaeth ac Atal (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
  • Egwyddorion Cyffredinol Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)
  • Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

 

 

Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud) 
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar yr adroddiad traws-bwyllgor ar yr adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Joel James (Canol De Cymru) (30 munud)