Datganiad a Chyhoeddiad Busnes  08/10/2024

Cyhoeddwyd 08/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/10/2024   |   Amser darllen munud

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn       

 

Dydd Mawrth 15 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                               

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cyfleoedd yr economi gylchol a chanlyniadau Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024 (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Addysg drydyddol (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cymunedau Cymraeg (45 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24 (60 munud)

 

Dydd Mercher 16 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)

Busnes y Senedd    

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i sefydlu pwyllgor (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Heledd Fychan AS (Canol De Cymru) (30 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gweithredu Diwygiadau Addysg - Adroddiad Interim (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Buffy Williams (Rhondda) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 22 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                               

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd (45 munud)
  • Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 (5 munud)
  • Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024 (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)
  • Dadl: Cyllideb Atodol 2024-25 (30 munud)

 

Dydd Mercher 23 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Julie Morgan AS (Gogledd Caerdydd) (60 munud)
  • Dadl ar y cyd ar adroddiadau gan Bwyllgorau ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Chyswllt Ffermio (90 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Cymdeithas heb arian parod? P-6-1335: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwasanaethau Rheilffordd i Deithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus) (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
    • Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Dynodi Darparwyr) 2024
    • Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru a Dadgofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024

 

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

Busnes y Senedd    

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a hawliau dinasyddion ar ôl Brexit (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1400: Adnoddau teg a digonol ar gyfer practisau cyffredinol yng Nghymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)