Datganiad a Chyhoeddiad Busnes  11/06/24

Cyhoeddwyd 11/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/06/2024   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

 

Dydd Mawrth 18 Mehefin 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                               

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos y ffoaduriaid: ein cartref (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cymru Greadigol: diweddariad sgiliau (45 munud)
  • Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024 (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
    • Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

 

Dydd Mercher 19 Mehefin 2024

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) (60 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Delyth Jewell AS (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Rhys ab Owen AS (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

         

Dydd Mawrth 25 Mehefin 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                               

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Cymraeg 2050 – ein blaenoriaethau (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024/25 (45 munud)
  • Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 (15 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (5 munud)

 

 

Dydd Mercher 26 Mehefin 2024

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-06-1437: Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Heledd Fychan AS (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2024

 

Busnes y Llywodraeth  

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y cynllun gorfodol newydd i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (30 munud)
  • Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg (45 munud) 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Siân Gwenllian AS (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Sioned Williams AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud)