Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 13/01/2026

Cyhoeddwyd 13/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/01/2026

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes            

            

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

Dydd Mawrth 20 Ionawr 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Hybiau Iechyd Menywod (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Cymru Greadigol (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithio i Bawb (30 munud)
  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026 (10 munud)
  • Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025 (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) (30 munud)

 

Dydd Mercher 21 Ionawr 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Cyllid: Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Atal iechyd gwael - gordewdra (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mawrth 27 Ionawr 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Amseroedd Aros y GIG (45 munud)
  • Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2026-27 (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Derfynol 2026-27 (90 munud)
  • Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2026-27 (60 munud)
  • Dadl: Setliad yr Heddlu 2026-27 (30 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 28 Ionawr 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mawrth 3 Chwefror 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol: Mwy o Gartrefi (30 munud)
  • Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
    • Rheoliadau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Parhau) 2026
    • Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) (Diwygio) 2026
  • Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026 (10 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Plant ac Ysgolion (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid (Rhif 2) (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 4 Chwefror 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16 (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)