Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 21 Hydref 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Cefnogi Cymunedau Cymru (45 munud)
- Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 (15 munud)
- Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 (5 munud)
- Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025 (5 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2024-25 (60 munud)
Dydd Mercher 22 Hydref 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar ddeiseb: P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo (30 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Codi tâl am arddangosfeydd (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Laura Ann Jones (Dwyrain De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 4 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) (60 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) (60 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Rhaglen Sgiliau Hyblyg (45 munud)
- Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynllunio a Seilwaith (15 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
- Egwyddorion Cyffredinol Y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)
- Y penderfyniad ariannol ynghylch Y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)
Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar yr adroddiad traws-bwyllgor ar yr adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Joel James (Canol De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: COP30 ac Wythnos Hinsawdd Cymru (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol ar Gam-drin Pobl Hŷn (45 munud)
- Dadl: Cofio (60 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
- Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
- Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ymateb i stormydd diweddar (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Sioned Williams MS (Gorllewin De Cymru) (30 munud)