Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 15/10/2024

Cyhoeddwyd 15/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/10/2024   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn       

 

Dydd Mawrth 22 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                  

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd (45 munud)
  • Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 (5 munud)
  • Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024 (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Egwyddorion cyffredinol Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol ynghylch Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)
  • Dadl: Cyllideb Atodol 2024-25 (30 munud)

 

Dydd Mercher 23 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Senedd    

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Julie Morgan AS (Gogledd Caerdydd) (60 munud)
  • Dadl ar y cyd ar adroddiadau gan Bwyllgorau ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Chyswllt Ffermio (90 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Cymdeithas heb arian parod? P-06-1335: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                     

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwasanaethau Rheilffordd i Deithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus) (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
    • Rheoliadau’r Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Dynodi Darparwyr) 2024
    • Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru a Dadgofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024

 

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024

 

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiadau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE a hawliau dinasyddion ar ôl Brexit (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1400: Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

Busnes y Senedd    

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adfer safleoedd glo brig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meinionnydd) (30 munud)