Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 16/09/25

Cyhoeddwyd 16/09/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/09/2025

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes           

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn        

 

Dydd Mawrth 23 Medi 2025 

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)  
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y Cynnydd o ran Cyflwyno’r Cwricwlwm (45 munud) 
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio) (15 munud)  
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) (15 munud) 

 

Dydd Mercher 24 Medi 2025 

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud) 
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud) 

 

Busnes y Senedd  

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud) 
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)  
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud) 
  • Dadl ar ddeiseb: P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol (30 munud) 
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan? (30 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2024 (30 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)  
  • Dadl Fer: Mark Isherwood AS (Gogledd Cymru) (30 munud)  

 

 

Dydd Mawrth 30 Medi 2025 

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)  
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)  
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) (60 munud) 
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Blaenoriaethau ar gyfer Enwau Lleoedd Cymru (45 munud) 
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru (45 munud) 
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Ap GIG Cymru (45 munud) 

 

Dydd Mercher 1 Hydref 2025 

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)  
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud) 

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)  
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud) 
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) 
  • Dadl ar ddeiseb: P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru (30 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)  
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)  
  • Dadl Fer: Joyce Watson AS (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)  

 

 

Dydd Mawrth 7 Hydref 2025 

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)  
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)  
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cynllunio ar gyfer y Gaeaf yn y GIG a Gofal Cymdeithasol (45 munud) 
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (45 munud) 
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithiau Bws £1 (45 munud) 
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud) 
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd Meddwl (15 munud) 

 

 

Dydd Mercher 8 Hydref 2025 

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)  
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud) 

 

Busnes y Senedd  

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)  
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25 (60 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed (60 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)  
  • Dadl Fer: Heledd Fychan AS (Canol De Cymru) (30 munud)