Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 17/03/2026

Cyhoeddwyd 17/03/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2026

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes            

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Bellach ac Uwch (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Cyflawni ein Blaenoriaethau: Cynnydd o ran Gwell Iechyd, Gwell Trafnidiaeth, Mwy o Swyddi, Mwy o Gartrefi (45 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Cymru Decach i Bawb: Cyflawniadau yn ystod Tymor y Llywodraeth (45 munud)
  • Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Rheoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
    • Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2026
    • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 10) 2026
  • Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026 (10 munud)
  • Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau Deddf Amrywogaethau Planhigion (Diwygio) 2026 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) (30 munud)

 

Dydd Mercher 25 Mawrth 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Recriwtio a chadw athrawon (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cymraeg i bawb? (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Mark Isherwood AS (Gogledd Cymru) (30 munud)