Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 17/06/2025

Cyhoeddwyd 17/06/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/06/2025

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn        

 

Dydd Mawrth 24 Mehefin 2025

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                           

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Swyddi (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran cyflwyno’r Cwricwlwm (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwynt ar y Môr (45 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 25 Mehefin 2025

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adam Price AS (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Penodiadau Cyhoeddus (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Altaf Hussain AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud) 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                           

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Iechyd y Geg mewn Plant (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Dull Gweithredu o ran Cyllideb 2026-27 (45 munud)
  • Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025 (15 munud)
  • Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025 (15 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) (5 munud)
  • Cyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) (135 munud)

 

Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Difrod a chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm - Canfyddiadau cychwynnol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Julie Morgan AS (Gogledd Caerdydd) (30 munud) 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 8 Gorffennaf 2025

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                           

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) (60 munud)
  • Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (30 munud)
  • Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2025-2026 (45 munud)
  • Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi (5 munud)
  • Cyfnod 4 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) (15 munud)
  • Cyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024 – 25 (30 munud)
  • Dadl ar ddeiseb: P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Yr Economi Sylfaenol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Janet Finch-Saunders AS (Aberconwy) (30 munud)