Datganiad a Chyhoeddiad Busnes  17/09/2024

Cyhoeddwyd 17/09/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/09/2024   |   Amser darllen munudau

 

       

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn       

 

Dydd Mawrth 24 Medi 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                     

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau rhynglywodraethol (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn y GIG (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.79 i dynnu Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn ôl (30 munud)

 

Dydd Mercher 25 Medi 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd    

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog – Reol Sefydlog 29.1 (Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU) (5 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Pedwerydd adroddiad ar ddeg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Hannah Blythyn (Delyn) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 1 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                     

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Mwy o gartrefi i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: trochi yn y Gymraeg (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Pwysigrwydd y 1000 diwrnod cyntaf mewn bywyd plentyn – o genhedlu i 2 oed (45 munud)

 

Dydd Mercher 2 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cyfoeth Naturiol Cymru - Gwaith Craffu Blynyddol 2023-24 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 8 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Iechyd Meddwl a Llesiant (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Twf Economaidd (45 munud)

 

Dydd Mercher 9 Hydref 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd    

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl Ifanc (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Sian Gwenllian (Arfon) (30 munud)