Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 19/11/2024

Cyhoeddwyd 19/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn       

 

Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                      

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cynnydd ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy – dylunio drwy gydweithio (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Adolygiad o briodoldeb dulliau mesur ymateb ambiwlansys argyfwng a thargedau cysylltiedig (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Paratoi ar gyfer diwygio ym maes bysiau (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Diweddariad ar Fuddsoddiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
    • Rheoliadau Unigolion sydd wedi eu Hesemptio o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024
    • Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024
    • Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024
    • Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Tyllu’r Corff (Triniaethau Arbennig) (Cymru) 2024
  • Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) 2024 (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

Busnes y Senedd    

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan James Evans - Y diweddaraf am y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Banc Datblygu Cymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                     

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Her newydd 50 diwrnod i helpu cleifion i adael yr ysbyty ac i wella gofal cymunedol (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Gwella presenoldeb (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Datganiad am sefyllfa canol trefi (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Arloesi ym maes gofal iechyd (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (45 munud)
  • Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024 (15 munud)

 

Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth? Ymchwiliad dilynol i ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Cyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru (45 munud)
  • Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 (15 munud)
  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2025-2026 (90 munud)

 

Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

Busnes y Senedd    

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Hefin David (Caerffili) (30 munud)