Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 2/12/2025

Cyhoeddwyd 02/12/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2025

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes            

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2025

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Perfformiad Brys Newydd ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans a Throsglwyddo Cleifion o Ambiwlansys mewn Ysbytai (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Adroddiad Cynnydd ar Dlodi Plant 2025 (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Tybaco a Fêps (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)
  • Dadl: Cyfnod 4 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2025

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Adam Price (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Carolyn Thomas AS (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 16 Rhagfyr 2025

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Lefelau Uwchgyfeirio Sefydliadau’r GIG (45 munud)
  • Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025 (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (45 munud):
    • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.18 i gytuno y dylai’r Bil Cynllunio (Cymru) fynd rhagddo fel bil cydgrynhoi
    • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.18 i gytuno y dylai’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) fynd rhagddo fel bil cydgrynhoi
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Egwyddorion Cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)
  • Dadl: Cyllideb Ddrafft 2026-27 (120 munud)

 

Dydd Mercher 17 Rhagfyr 2025

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) (60 munud)
  • Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths AS (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 13 Ionawr 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Egwyddorion Cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)
    • Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Egwyddorion Cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
    • Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

 

Dydd Mercher 14 Ionawr 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer (30 munud)