Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 3 Mehefin 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (60 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Wythnos Gwirfoddoli (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Y Cynllun Hawliau Pobl Anabl (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Amseroedd Aros a Blaenoriaethau 2025/26 (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Taith (45 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg (15 munud)
Dydd Mercher 4 Mehefin 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar ddeiseb P-06-1476: Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: John Griffiths AS (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)
- Dadl Fer: Llyr Gruffydd AS (Gogledd Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 10 Mehefin 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Ansawdd Dŵr yng Nghymru (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Twf Economaidd yng Nghymru - Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Trethi Lleol Tecach (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Atal Afiechyd (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Canllawiau ar Amrywiaeth a Chynhwysiant i Bleidiau Gwleidyddol (45 munud)
- Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 (15 munud)
Dydd Mercher 11 Mehefin 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd (60 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Yr Economi werdd (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dydd Mawrth 17 Mehefin 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: 10fed Pen-blwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran cyflwyno’r Cwricwlwm (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Y Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod a’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ap GIG Cymru (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig (45 munud)
- Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025 (15 munud)
- Rheoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025 (5 munud)
Dydd Mercher 18 Mehefin 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar ddeiseb: P-06-1365 Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru (30 munud)
- Cynnig i atal Rheolau Sefydlog (5 munud)
- Dadl Agored (120 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)