Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 4 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) (60 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) (60 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Rhaglen Sgiliau Hyblyg (45 munud)
- Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2025 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynllunio a Seilwaith (15 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
- Egwyddorion Cyffredinol Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)
- Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)
Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Newidiadau sy’n deillio o Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (5 munud)
- Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Rheol Sefydlog 17: pleidleisio mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan a chyfrifoldeb am fynediad i gyfarfodydd (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Rhys ab Owen, Canol De Cymru (30 munud)
- Dadl ar yr adroddiad traws-bwyllgor ar yr adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Joel James AS (Canol De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: COP30 ac Wythnos Hinsawdd Cymru (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol ar Gam-drin Pobl Hŷn (45 munud)
- Dadl: Cofio (60 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
- Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
- Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cyfoeth Naturiol Cymru: Ymateb i stormydd diweddar (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Sioned Williams AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cartrefi Fforddiadwy (45 munud)
- Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 (15 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2024-25 (60 munud)
Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
- Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27 (30 munud)
- Dadl Agored (120 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)