Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Iechyd y Geg mewn Plant (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Dull Gweithredu o ran Cyllideb 2026-27 (45 munud)
- Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025 (15 munud)
- Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) (5 munud)
- Cyfnod 3 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) (135 munud)
Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Hefin David AS (Caerffili) (30 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Difrod a chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm - Canfyddiadau cychwynnol (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Julie Morgan AS (Gogledd Caerdydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 8 Gorffennaf 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) (60 munud)
- Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (30 munud)
- Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2025-2026 (45 munud)
- Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi (5 munud)
- Cyfnod 4 y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) (15 munud)
- Cyfnod 3 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) (180 munud)
Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024 – 25 (30 munud)
- Dadl ar ddeiseb: P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru (30 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Yr Economi Sylfaenol (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Janet Finch-Saunders AS (Aberconwy) (30 munud)
Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru (45 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
- Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025
- Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hawliau Cyflogaeth (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban) (15 munud)
- Cyfnod 4 y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) (15 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol a Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru (60 munud)
Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2025
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Datganiad gan Mark Isherwood: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod – Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (60 munud)
- Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2026-27 (60 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: Modiwl 1 yr Ymchwiliad (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Cefin Campbell AS (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)