Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 1 Hydref 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Llifogydd – paratoi ar gyfer y gaeaf (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Mwy o gartrefi i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Pwysigrwydd y 1000 diwrnod cyntaf mewn bywyd plentyn – o genhedlu i 2 oed (45 munud)
Dydd Mercher 2 Hydref 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (Delyth Jewell MS, Dwyrain De Cymru) (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cyfoeth Naturiol Cymru - Gwaith Craffu Blynyddol 2023-24 (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 8 Hydref 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Iechyd Meddwl a Llesiant (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Twf Economaidd (45 munud)
Dydd Mercher 9 Hydref 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
- Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl Ifanc (30 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl Fer: Sian Gwenllian (Arfon) (30 munud)
Dydd Mawrth 15 Hydref 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2023-24 (60 munud)
Dydd Mercher 16 Hydref 2024
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gweithredu Diwygiadau Addysg - Adroddiad Interim (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
- Dadl Fer: Buffy Williams (Rhondda) (30 munud)