Datganiad a Chyhoeddiad Busnes   25/06/2024

Cyhoeddwyd 25/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/06/2024   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

 

Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                              

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y cynllun gorfodol newydd i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (30 munud)
  • Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 (15 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) (5 munud)
  • Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2024

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg (45 munud) 

 

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Trydydd adroddiad ar ddeg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Siân Gwenllian AS (Arfon) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Sioned Williams AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

 

   

 

 

      

Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2024

 

Busnes y Llywodraeth                                                                                                              

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
  • Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 (15 munud)
  • Cyfnod 4 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (15 munud)
  • Cyfnod 3 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) (180 munud)

 

 

Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd  

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023 – 24 (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Carolyn Thomas AS (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024

 

Busnes y Llywodraeth  

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (60 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
    • Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
    • Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
  • Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi (5 munud)
  • Cyfnod 4 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2024

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Atebolrwydd Aelodau Unigol (30 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26 (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Y sefyllfa bresennol: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Luke Fletcher AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud)