Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 27/01/2026

Cyhoeddwyd 27/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2026

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes            

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

Dydd Mawrth 3 Chwefror 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Mwy o Gartrefi (30 munud)
  • Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
    • Rheoliadau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Parhau) 2026
    • Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) (Diwygio) 2026
  • Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026 (10 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Plant ac Ysgolion (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid (Rhif 2) (15 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (5 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 4 Chwefror 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16 (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Julie Morgan AS (Gogledd Caerdydd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 10 Chwefror 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Wythnos Prentisiaethau (45 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 (5 munud)
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026 (10 munud)
  • Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026 (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 11 Chwefror 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cynllun Buddsoddi Cronfa Twf Lleol Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Cefnogi’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Cymunedau Cymraeg (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gefnogol a Chynhwysol ar gyfer Dyfodol Mwy Disglair (30 munud)
  • Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Troseddu a Phlismona (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynlluniau Pensiwn (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) (60 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) (5 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (15 munud)

 

Dydd Mercher 25 Chwefror 2026

 

Busnes y Llywodraeth

 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Teithio Llesol yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gwasanaethau
  • Offthalmoleg yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Buffy Williams (Rhondda) (30 munud)