Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 30/09/25

Cyhoeddwyd 30/09/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/09/2025

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes            

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn      

 

Dydd Mawrth 7 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cynllunio ar gyfer y Gaeaf yn y GIG a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cynllunio i Wrthsefyll Tywydd y Gaeaf (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf – Cadw Pobl yn Gynnes y Gaeaf hwn (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithiau Bws £1 (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd Meddwl (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 8 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud) 
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i ddiddymu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25 (60 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 
  • Dadl Fer: Heledd Fychan AS (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 14 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diweddariad ar y Diwygiadau ADY (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Mae Casineb yn Brifo Cymru (45 munud)
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025 (15 munud)
  • Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025 (15 munud)
  • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003) (Cymru) 2025 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud)
  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27 (90 munud)

 

 

Dydd Mercher 15 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (45 munud)

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau Amserol (20 munud) 
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) 
  • Dadl Fer: Altaf Hussain AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud) 

 

 

 

Dydd Mawrth 21 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth                                                                                                  

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Cefnogi Cymunedau Cymru (45 munud)
  • Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 (15 munud)
  • Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025 (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo (15 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2025-26 (60 munud)

 

Dydd Mercher 22 Hydref 2025

Busnes y Llywodraeth 

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip (45 munud)

Busnes y Senedd   

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Codi tâl am arddangosfeydd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Laura Anne Jones AS (Dwyrain De Cymru) (30 munud)