Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (145)
Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Gorffennaf
2009
Amser: 13.30
Ethol Dirprwy Lywydd Dros Dro
Etholwyd Jeff Cuthbert yn Ddirprwy
Lywydd Dros Dro ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw.
.........................................
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Gofynnwyd 9 cwestiwn. Ni ofynnwyd cwestiwn 1 a thynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.
.........................................
14.07
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Gofynnwyd 8 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 3, 7 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau.
.........................................
14.45
Eitem
3: Datganiad gan y Llywydd ar adroddiad y Panel Adolygu Annibynnol
.........................................
15.25
Eitem
4: Cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog
NDM4261 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 35.2:
1. Yn ystyried
Adroddiad y Pwyllgor Busnes a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Gorffennaf; ac
2.
Yn cymeradwyo’r diwygiadau i Reolau Sefydlog a nodir yn Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
15.26
Eitem
5: Dadl Cyfnod 3 Rheol Sefydlog 23.57 ar y Mesur arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru)
Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig. Ar ddiwedd Cyfnod 3, gall yr Aelod sy’n gyfrifol gynnig i’r Mesur arfaethedig gael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:
1.
Hybu disgyblion mewn ysgolion a gynhelir i fwyta ac yfed yn iach
Gwelliant 1
2. Adroddiadau Llywodraethwyr
Gwelliant 3
3. Adroddiadau
gan Weinidogion Cymru
Gwelliannau 7, 8, 4
4. Rheoliadau sy’n rhagnodi gofynion ynglŷn â bwyd a diod
Gwelliant 37
5.
Technegol ac ieithyddol amrywiol
Gwelliannau 19, 20, 21, 9, 22, 17, 23, 24, 15, 25, 26, 16, 27, 28, 29, 30, 10, 31, 32, 33, 11, 18, 12, 34, 35, 13, 14, 36
6. Dŵr yfed mewn ysgolion
Gwelliannau
38, 39
7. Hybu prydau mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill
Gwelliant 5
8. Diogelu manylion adnabod disgyblion sy’n cael cinio ysgol neu
laeth am ddim
Gwelliannau 40, 6, 41
9. Dyletswyddau Gweinidogion Cymru
Gwelliant 2
Cynhaliwyd y pleidleisiau yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
2 |
28 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
26 |
38 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
27 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gan fod gwelliant 7 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 8
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 37:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
28 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 37.
Derbyniwyd gwelliannau 19, 20, 21, 9, 22, 17, 23, 24, 15, 25, 26, 16, 27, 28, 29 a 30, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
25 |
37 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 31:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
32 |
0 |
5 |
37 |
Derbyniwyd gwelliant 31.
Derbyniwyd gwelliant 32 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 33:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
5 |
38 |
Derbyniwyd gwelliant 33.
Gan fod gwelliant 33 wedi’i dderbyn, methodd gwelliant 11.
Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 38:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
27 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 38.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 39:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
29 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 39.
Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
29 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 40:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
27 |
39 |
Gwrthodwyd gwelliant 40.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
27 |
39 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 41:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
27 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 41.
Derbyniwyd gwelliannau 34, 35, 13, 14 a 36 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
25 |
38 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
27 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
.........................................
17.52
Eitem
6: Cynnig Cyfnod 4 Rheol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru)
Ar ddiwedd Cyfnod 3, gall yr Aelod sy’n gyfrifol gynnig i’r Mesur arfaethedig gael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58.
Derbyniwyd y Mesur fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
Bydd y Mesur wedi’i ddiwygio ar gael yn y linc a ganlyn:
.........................................
17.56
Eitem
7: Dadl ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Joyce Watson ynghylch Arwynebau Caled
NDM4245 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff Joyce Watson osod Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 23 Ionawr 2009 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
18.28
Eitem
8: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4260 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ei bod yn hanfodol bod gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl yn cael eu darparu yn brydlon ac yn amserol,
2. Yn nodi â phryder lefelau presennol yr oedi wrth ddarparu cadeiriau olwyn pediatreg ledled Cymru,
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi’n ddigonol mewn gwasanaethau cadeiriau olwyn pediatreg i ddiwallu’r safonau presennol a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
1 |
20 |
33 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth ac yn ei le rhoi:
"Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau prydlon
ac effeithiol i blant a phobl ifanc anabl
2.
Yn nodi â phryder lefelau presennol yr oedi wrth ddarparu cadeiriau olwyn pediatreg ledled Cymru,
3.
Yn edrych ymlaen at yr Adroddiad ar yr Adolygiad o Wasanaethau Cadeiriau Olwyn a sefydlwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
4.
Yn cymeradwyo’r ymrwymiad i safonau gwasanaethau cadeiriau olwyn, a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
20 |
0 |
12 |
32 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) - gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol
Ym
mhwynt 1, dileu 'plant a phobl ifanc’
a rhoi 'pobl’
yn ei le.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) - gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Ym
mhwynt 2, dileu 'pediatreg’.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i osod safon ofynnol ar gyfer darparu cadeiriau olwyn
i oedolion, er mwyn sicrhau nad oes neb yn disgwyl mwy na 12 mis i gael cadair olwyn.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
19 |
32 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4260 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau prydlon ac effeithiol i blant a phobl ifanc anabl
2. Yn nodi â phryder lefelau presennol yr oedi wrth ddarparu cadeiriau olwyn pediatreg ledled Cymru,
3. Yn edrych ymlaen at yr Adroddiad ar yr Adolygiad o Wasanaethau Cadeiriau Olwyn a sefydlwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
4. Yn cymeradwyo’r ymrwymiad i safonau gwasanaethau cadeiriau olwyn, a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
13 |
32 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
19.24
Cyfnod Pleidleisio
.........................................
19.26
Cynnig trefniadol
Symudodd Jocelyn Davies gynnig trefniadol yn unol â Rheol Sefydlog 7.26 i ohirio’r ddadl fer.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
...............................................
Eitem 9: Dadl fer - gohiriwyd yr eitem hon
NDM4262 Chris Franks (Canol De Cymru):
Cyllid i chi, eich cymuned, ac i Gymru
.........................................