08/07/2009 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (145)

Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Gorffennaf  2009
Amser: 13.30

Ethol Dirprwy Lywydd Dros Dro
Etholwyd Jeff Cuthbert yn Ddirprwy Lywydd Dros Dro ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw.

.........................................

Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Gofynnwyd 9 cwestiwn. Ni ofynnwyd cwestiwn 1 a thynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.

.........................................

14.07
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Gofynnwyd 8 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 3, 7 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau.

.........................................

14.45
Eitem 3: Datganiad gan y Llywydd ar adroddiad y Panel Adolygu Annibynnol

.........................................

15.25
Eitem 4: Cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog

NDM4261 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 35.2:


1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Gorffennaf; ac


2. Yn cymeradwyo’r diwygiadau i Reolau Sefydlog a nodir yn Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35

.........................................

15.26
Eitem 5: Dadl Cyfnod 3 Rheol Sefydlog 23.57 ar y Mesur arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru)

Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig. Ar ddiwedd Cyfnod 3, gall yr Aelod sy’n gyfrifol gynnig i’r Mesur arfaethedig gael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

1. Hybu disgyblion mewn ysgolion a gynhelir i fwyta ac yfed yn iach
Gwelliant 1

2. Adroddiadau Llywodraethwyr
Gwelliant 3

3. Adroddiadau gan Weinidogion Cymru
Gwelliannau 7, 8, 4

4. Rheoliadau sy’n rhagnodi gofynion ynglŷn â bwyd a diod
Gwelliant 37

5. Technegol ac ieithyddol amrywiol
Gwelliannau 19, 20, 21, 9, 22, 17, 23, 24, 15, 25, 26, 16, 27, 28, 29, 30, 10, 31, 32, 33, 11, 18, 12, 34, 35, 13, 14, 36

6. Dŵr yfed mewn ysgolion
Gwelliannau 38, 39

7. Hybu prydau mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill
Gwelliant 5

8. Diogelu manylion adnabod disgyblion sy’n cael cinio ysgol neu laeth am ddim
Gwelliannau 40, 6, 41

9. Dyletswyddau Gweinidogion Cymru
Gwelliant 2

Cynhaliwyd y pleidleisiau yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

2

28

42

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

26

38

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

27

40

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gan fod gwelliant 7 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 8

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 37:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

28

41

Gwrthodwyd gwelliant 37.

Derbyniwyd gwelliannau 19, 20, 21, 9, 22, 17, 23, 24, 15, 25, 26, 16, 27, 28, 29 a 30, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

25

37

Gwrthodwyd gwelliant 10.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 31:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

5

37

Derbyniwyd gwelliant 31.

Derbyniwyd gwelliant 32 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 33:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

5

38

Derbyniwyd gwelliant 33.

Gan fod gwelliant 33 wedi’i dderbyn, methodd gwelliant 11.

Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 38:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

27

40

Gwrthodwyd gwelliant 38.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 39:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

29

42

Gwrthodwyd gwelliant 39.

Derbyniwyd gwelliant 12  yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

29

42

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 40:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

27

39

Gwrthodwyd gwelliant 40.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

27

39

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 41:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

27

40

Gwrthodwyd gwelliant 41.

Derbyniwyd gwelliannau 34, 35, 13, 14 a 36 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

25

38

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

27

40

Gwrthodwyd gwelliant 4.

.........................................

17.52
Eitem 6: Cynnig Cyfnod 4 Rheol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru)

Ar ddiwedd Cyfnod 3, gall yr Aelod sy’n gyfrifol gynnig i’r Mesur arfaethedig gael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58.

Derbyniwyd y Mesur fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 7.35

Bydd y Mesur wedi’i ddiwygio ar gael yn y linc a ganlyn:

.........................................

17.56
Eitem 7: Dadl ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Joyce Watson ynghylch Arwynebau Caled

NDM4245 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff Joyce Watson osod Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 23 Ionawr 2009 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35

.........................................

18.28
Eitem 8: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4260 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod ei bod yn hanfodol bod gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl yn cael eu darparu yn brydlon ac yn amserol,

2. Yn nodi â phryder lefelau presennol yr oedi wrth ddarparu cadeiriau olwyn pediatreg ledled Cymru,

3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi’n ddigonol mewn gwasanaethau cadeiriau olwyn pediatreg i ddiwallu’r safonau presennol a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

1

20

33

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth ac yn ei le rhoi:

"Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau prydlon ac effeithiol i blant a phobl ifanc anabl

2. Yn nodi â phryder lefelau presennol yr oedi wrth ddarparu cadeiriau olwyn pediatreg ledled Cymru,

3. Yn edrych ymlaen at yr Adroddiad ar yr Adolygiad o Wasanaethau Cadeiriau Olwyn a sefydlwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,

4. Yn cymeradwyo’r ymrwymiad i safonau gwasanaethau cadeiriau olwyn, a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

12

32

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) - gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol

Ym mhwynt 1, dileu 'plant a phobl ifanc’ a rhoi 'pobl’ yn ei le.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) - gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol

Ym mhwynt 2, dileu 'pediatreg’.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i osod safon ofynnol ar gyfer darparu cadeiriau olwyn i oedolion, er mwyn sicrhau nad oes neb yn disgwyl mwy na 12 mis i gael cadair olwyn.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

19

32

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4260 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau prydlon ac effeithiol i blant a phobl ifanc anabl

2. Yn nodi â phryder lefelau presennol yr oedi wrth ddarparu cadeiriau olwyn pediatreg ledled Cymru,

3. Yn edrych ymlaen at yr Adroddiad ar yr Adolygiad o Wasanaethau Cadeiriau Olwyn a sefydlwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,

4. Yn cymeradwyo’r ymrwymiad i safonau gwasanaethau cadeiriau olwyn, a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

13

32

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

.........................................

19.24

Cyfnod Pleidleisio

.........................................

19.26

Cynnig trefniadol

Symudodd Jocelyn Davies gynnig trefniadol yn unol â Rheol Sefydlog 7.26 i ohirio’r ddadl fer.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35

...............................................

Eitem 9: Dadl fer - gohiriwyd yr eitem hon

NDM4262 Chris Franks (Canol De Cymru):

Cyllid i chi, eich cymuned, ac i Gymru

.........................................

Daeth y cyfarfod i ben am 19.26

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30 ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2009

Ysgrifenyddiaeth y Siambr