Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (178)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2010
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
………………………
14.18
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.38
Eitem 3: Dadl ar Setliad yr Heddlu
NDM4396 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:
Yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2010-2011(Setliad Terfynol - yr Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a anfonwyd at Aelodau’r Cynulliad drwy’r e-bost ddydd Mawrth 02 Chwefror 2010.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
13 |
6 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
15.13
Eitem 4: Dadl a chymeradwyo’r gorchymyn drafft, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2010 o dan Reol Sefydlog 22.34
NDM4397 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2010
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 02 Chwefror 2010;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Llywodraeth Leol) 2010 gerbron y Cynulliad ar 07 Rhagfyr 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
15.49
Eitem 5: Cynnig ar Gonfensiwn Cymru Gyfan
NDM4395 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu, yn unol ag adran 104(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y dylid gwneud argymhelliad i’w Mawrhydi yn y Cyngor i wneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 103(1) o’r Ddeddf.
O gofio statws cyfreithiol unigryw’r cynnig, a gofynion arbennig Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, cynhaliwyd pleidlais wedi’i chofnodi.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4395 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu, yn unol ag adran 104(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y dylid gwneud argymhelliad i’w Mawrhydi yn y Cyngor i wneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 103(1) o’r Ddeddf.
O gofio statws cyfreithiol unigryw’r cynnig, a gofynion arbennig Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, cynhaliwyd pleidlais wedi’i chofnodi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
17.29
Cyfnod Pleidleisio
………………..............