Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (94)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2008
Amser:
1.30pm
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog
NDM4054 Dafydd
Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 1 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 11 Tachwedd 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
Eitem 1: Cynnig i newid Aelod o'r Pwyllgor Cyllid
NNDM4055 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Nick Ramsay (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Nick Bourne (Ceidwadwyr).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
Eitem
2: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Atebwyd pob cwestiwn. Ni ofynnwyd cwestiynau 10 a 13.
………………………
2.41pm
Cwestiwn
Brys 1:
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad diweddar ynghylch colli swyddi yng nghwmni Corus yn Shotton.
Cwestiwn
Brys 2:
William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y bydd colli dros 200 o swyddi yn Nhredegar, Gilwern ger y Fenni a Crosskeys ger Casnewydd, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 8 Tachwedd 2008,
yn effeithio ar economi Dwyrain De Cymru.
Atebwyd y ddau gwestiwn brys.
………………………
3.08pm
Eitem
3: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
………………………
3.23pm
Eitem
4: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad Deintyddol - Adroddiad Ymgynghori.
………………………
3.56pm
Eitem
5: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: Cynnydd o ran nodi anghenion ardaloedd gwledig anghysbell a mynd i’r afael â hwy.
………………………
4.25pm
Eitem
6: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
.…………………………