11/11/2008 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (94)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2008
Amser: 1.30pm

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

NDM4054 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 1 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 11 Tachwedd 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

Eitem 1: Cynnig i newid Aelod o'r Pwyllgor Cyllid

NNDM4055 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Nick Ramsay (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Nick Bourne (Ceidwadwyr).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

Eitem 2: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Atebwyd pob cwestiwn. Ni ofynnwyd cwestiynau 10 a 13.

………………………

2.41pm
Cwestiwn Brys 1:
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad diweddar ynghylch colli swyddi yng nghwmni Corus yn Shotton.

Cwestiwn Brys 2:
William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y bydd colli dros 200 o swyddi yn Nhredegar, Gilwern ger y Fenni a Crosskeys ger Casnewydd, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 8 Tachwedd 2008, yn effeithio ar economi Dwyrain De Cymru.

Atebwyd y ddau gwestiwn brys.

………………………

3.08pm
Eitem 3: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

………………………

3.23pm
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad Deintyddol - Adroddiad Ymgynghori.

………………………

3.56pm
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: Cynnydd o ran nodi anghenion ardaloedd gwledig anghysbell a mynd i’r afael â hwy.


………………………

4.25pm
Eitem 6: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

.…………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 5.03pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 1.30pm ddydd Mercher, 12 Tachwedd 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr