Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (36)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Rhagfyr 2007
Amser: 2.00pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 4 eu grwpio.
.................................
2.55pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
.................................
3.12pm
Pwynt o drefn
Arweinydd y Tŷ: Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
.................................
3.17pm
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Newid yn yr hinsawdd
................................
3.42pm
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Gwasanaethau Eiriolaeth Plant
................................
4.14pm
Eitem 5: Dadl ar y gyllideb ddrafft
NDM3830 - Andrew Davies (Gorllewin Abertawe):
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 27.6:
Yn nodi’r gyllideb ddrafft ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2008-2009, 2009-2010 a 2010-2011 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ar 5 Tachwedd 2007.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"1 Yn mynegi pryder y gallai’r setliad llywodraeth leol arwain at godi’r dreth gyngor neu dorri gwasanaethau.
2 Yn credu, o ystyried y setliad tynn ar gyfer y gyllideb, y dylid gohirio’r ymrwymiadau newydd yn rhaglen Cymru’n Un er mwyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ganolbwyntio ar wasanaethau craidd.”
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau’r cyllid i gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd ganddi nac i fynd i’r afael ag anghenion pobl Cymru.”
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at lefel y setliad llywodraeth leol cyfredol gan nad yw’n ddigon i ddiogelu gwasanaethau craidd ac yn galw am adolygiad o’r setliad hwn ar frys.”
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyllid (FIN(3)-07-R04) sy’n datgan "bod y ffigurau a gyflwynwyd yn dangos prinder arwyddocaol yn y cyllid cyfalaf a fydd ar gael pan gymerir i ystyriaeth y dagfa o waith cynnal-a-chadw mewn meysydd allweddol ym mholisi’r Llywodraeth”.”
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi bod y gyllideb ddrafft yn darparu cronfeydd ar gyfer Comisiwn i adolygu cyllid y Cynulliad ac na fydd adolygiad o’r fath yn effeithio ar yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant cyfredol na’r adnoddau sydd ar gael i Gymru ar gyfer y tair blynedd nesaf, ac yn gresynu na chyhoeddwyd amserlen ar gyfer gwaith y Comisiwn i adolygu cyllid y Cynulliad.”
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad oes darpariaeth ddigonol yn y gyllideb ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf y GIG a’r gwaith cynnal a chadw nad yw wedi’i gyflawni hyd yma.”
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad oes darpariaeth ddigonol yn y gyllideb ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf ym maes addysg a’r gwaith cynnal a chadw nad yw wedi’i gyflawni hyd yma.”
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad oes darpariaeth ddigonol yn y gyllideb ar gyfer y rhaglen buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth.”
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at fethiant y Llywodraeth i sicrhau arian canlyniadol o dan fformiwla Barnett yng ngoleuni’r cyllid adfywio a ddarparwyd mewn perthynas â’r Gemau Olympaidd.”
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at fethiant y Llywodraeth i adfer y waelodlin ar gyfer iechyd a ostyngwyd yn sgil tanwariant yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr.”
Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi nad yw’r gyllideb ddrafft yn gwneud unrhyw gynnydd tuag at leihau’r bwlch cyllido mewn Addysg Uwch ac ysgolion.”
Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at fethiant parhaus y Llywodraeth i adfer a chynyddu gwerth gwirioneddol cyllidebau tai cymdeithasol.”
Gwelliant 13 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at y ffaith nad yw’r arian canlyniadol ychwanegol yn sgil "Aiming High for Disabled Children: Better Support for Families" wedi’i gadw ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd yng Nghymru.”
Gwelliant 14 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at fethiant y Llywodraeth i ddod o hyd i ddigon o gyllid ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghymru.”
Gwelliant 15 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at fethiant y Llywodraeth i gynnal buddsoddiad termau real mewn diogelwch ar y ffordd.”
Gwelliant 16 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at fethiant y Llywodraeth i gynnal buddsoddiad termau real mewn rhaglenni i fynd i’r afael â thrais yn y cartref.”
Gwelliant 17 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi effaith yr achosion diweddar o glwy’r traed a’r genau ar gymunedau gwledig a’r methiant i ddarparu digon o iawndal yn y gyllideb ddrafft.”
Gwelliant 18 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi â phryder y diffyg darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer ymchwil a datblygu yn y sector iechyd.”
Gwelliant 19 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi â phryder y diffyg darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer pwysau ariannol ychwanegol ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau.”
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliannau
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
1 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd y gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 12.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 13:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
1 |
36 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 13.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 14:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 14.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 15:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 15.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 16:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 16.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 17:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
36 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 17.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 18:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 18.
Cynhaliwyd pleidlais ar gwelliant 19:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 19.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
....................................................