Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (212) - v3
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13
Gorffennaf 2010
Amser: 13.30
13.30
Enwebwyd William Graham yn Ddirprwy Lywydd dros dro am weddill y cyfarfod.
………………………
13.30
Eitem
1: Enwebiad ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru
NDM4529 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi’i ddiolchgarwch am gyfraniad Gillian Body yn ystod ei thymor yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru;
2. Wrth weithredu o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol â pharagraff 1(2), yn enwebu Huw Vaughan Thomas i’w benodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau’n syth ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyfredol roi’r gorau i fod yn ddeiliad y swydd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
13.35
Eitem
2: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.
………………………
14.26
Cwestiwn
Brys
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun arfaethedig i gau ffatri Linamar? - EAQ(3)1575(ECT)
………………………
14.32
Eitem
3: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
15.04
Pwynt
o drefn - Brian Gibbons ar gwestiwn brys a ofynnwyd yr wythnos diwethaf ond iddo gael ei wrthod. Cafodd y cwestiwn ei dderbyn yr wythnos hon.
Nododd y Dirprwy Lywydd, o dan Reol Sefydlog 7.56, y caiff y Llywydd alw ar Aelod i ofyn cwestiwn brys os yw’n fodlon bod y cwestiwn o bwys cyhoeddus brys ac y caiff ddigon o rybudd. Gwnaed penderfyniad gan y Llywydd yr wythnos diwethaf yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd ar gael iddo ar y pryd. Nododd y Dirprwy Lywydd fod y mater wedi symud ymlaen ers hynny a bod y penderfyniad i ganiatáu’r cwestiwn wedi’i seilio ar y wybodaeth sydd ar gael heddiw.
………………………
15.05
Eitem
4: Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru 2010-11
………………………
15.43
Eitem
5: Datganiad gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb: Gwariant yn ystod y flwyddyn
………………………
16.36
Eitem
6: Datganiad Deddfwriaethol gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: y Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)
………………………
17.13
Eitem
7: Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru)
NDM4525 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).
Gosodwyd Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 22 Mawrth 2010;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar y Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 2 Gorffennaf 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
NDM4526 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) , yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b) ac (c), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
Eitem 8: Dadl ar y Gyllideb Atodol
NDM4502 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010 -11, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Fusnes a’r gyllideb ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Llun 21 Mehefin 2010.
Troednodyn:
Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
1.
y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
2.
yr adnoddau y cytun
wyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
3.
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyr
annwyd ar gyfer cyllideb
floc Cymru gan y Trysorlys
a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
4.
cysoniad rhwng
amcangyfrif y symiau
sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
5.
cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Daeth y cyfarfod i ben 18.35