13/07/2010 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (212) - v3

Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Gorffennaf 2010

Amser: 13.30

13.30

Enwebwyd William Graham yn Ddirprwy Lywydd dros dro am weddill y cyfarfod.

………………………

13.30
Eitem 1: Enwebiad ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru  

NDM4529 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi’i ddiolchgarwch am gyfraniad Gillian Body yn ystod ei thymor yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru;

2. Wrth weithredu o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol â pharagraff 1(2), yn enwebu Huw Vaughan Thomas i’w benodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau’n syth ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyfredol roi’r gorau i fod yn ddeiliad y swydd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

13.35
Eitem 2: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.

………………………

14.26
Cwestiwn Brys

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):

A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun arfaethedig i gau ffatri Linamar? - EAQ(3)1575(ECT)

………………………

14.32
Eitem 3: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………

15.04
Pwynt o drefn - Brian Gibbons ar gwestiwn brys a ofynnwyd yr wythnos diwethaf ond iddo gael ei wrthod. Cafodd y cwestiwn ei dderbyn yr wythnos hon.

Nododd y Dirprwy Lywydd, o dan Reol Sefydlog 7.56, y caiff y Llywydd alw ar Aelod i ofyn cwestiwn brys os yw’n fodlon bod y cwestiwn o bwys cyhoeddus brys ac y caiff ddigon o rybudd. Gwnaed penderfyniad gan y Llywydd yr wythnos diwethaf yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd ar gael iddo ar y pryd. Nododd y Dirprwy Lywydd fod y mater wedi symud ymlaen ers hynny a bod y penderfyniad i ganiatáu’r cwestiwn wedi’i seilio ar y wybodaeth sydd ar gael heddiw.   

………………………

15.05
Eitem 4: Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru 2010-11  

………………………

15.43
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb: Gwariant yn ystod y flwyddyn

………………………

16.36
Eitem 6: Datganiad Deddfwriaethol gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: y Mesur Arfaethedig ynghylch Llywodraeth Leol (Cymru)

………………………

17.13
Eitem 7: Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru)

NDM4525 Edwina Hart (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).

Gosodwyd Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 22 Mawrth 2010;

Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar y Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 2 Gorffennaf 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

NDM4526 Edwina Hart (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) , yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b) ac (c), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

Eitem 8: Dadl ar y Gyllideb Atodol

NDM4502 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010 -11, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Fusnes a’r gyllideb ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Llun 21 Mehefin 2010.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

1. y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

2. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

3. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb floc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

4. cysoniad rhwng amcangyfrif y symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

5. cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

  • nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

Daeth y cyfarfod i ben 18.35

………………………

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30 ddydd Mercher, 14 Gorffennaf 2010.

Ysgrifenyddiaeth y Siambr