Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (180)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Chwefror
2010
Amser: 13.30
Cafodd Peter Black ei ethol fel Dirprwy Lywydd Dros Dro.
...…………………..
13.31
Eitem
1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 7, 9 a 10 yn ôl.
………………………
14.17
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.49
Eitem
3: Datganiad Deddfwriaethol gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Mesur arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru)
………………………
15.15
Eitem
4: Cynnig i gymeradwyo’r rheoliadau: Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010
NDM4413 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
15.16
Eitem
5: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn y DU yn y Cyfrin Gyngor ynghylch yr ymrwymiad i leihau allyriadau carbon
NDM4412 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r
Ymrwymiad Lleihau Carbon 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
……………………….
15.23
Eitem
6: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant
o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur.
NDM4352 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii), sy’n codi o ganlyniad iddo.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
15.23
Cynnig
i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu’r Cynulliad i drafod a chymeradwyo Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Diwylliant a Meysydd Eraill
NDM4422 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 7 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 23 Chwefror 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
15.24
Cynnig
i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r Cynulliad drafod a chymeradwyo’r Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010
NDM4423 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 8 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 23 Chwefror 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
Gan nad oedd y Gweinidog dros Dreftadaeth yn bresennol, cynigiodd y Llywydd y dylid symud i eitem 8 cyn eitem 7. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad.
15.25
Eitem
8: Trafod a chymeradwyo’r Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010
NNDM4420 Leighton Andrews (Rhondda Cynon Taf)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010.
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Chwefror 2010;
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 ar y Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010 gerbron y Cynulliad ar 27 Ionawr 2010.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
4.01
Eitem
7: Trafod a chymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill) 2009
NNDM4421 Alun Ffred Jones (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill) 2010.
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Chwefror 2010;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill) 2009 gerbron y Cynulliad ar 6 Tachwedd 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
Eitem
9: Dadl ar Ardaloedd Gwledig Anghysbell - gohiriwyd tan 2 Mawrth 2010
NDM4415 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r Adroddiad ar Ardaloedd Gwledig Anghysbell;
2. Yn cymeradwyo’r dull a gynigir o wireddu’r ymrwymiad i ardaloedd gwledig anghysbell yn 'Cymru’n Un' fel y’i amlinellwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig ar 15 Rhagfyr 2009.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ym
mhwynt 2, newid "cymeradwyo
” i "nodi
”.
Gwelliant 2 -Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
cydnabod yr effaith niweidiol ar gymunedau gwledig yn sgil y ffaith bod tafarndai a swyddfeydd post gwledig yn parhau i gau”.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymrwymo i waith tymor hir parhaol i wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig”.
………………………
Eitem
10: Dadl ar Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy - gohiriwyd tan 2 Mawrth 2010
NDM4414 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n croesawu’r camau a gymerwyd i wneud Cymru’n genedl mwy cynaliadwy, fel a ddangosir yn Nangosyddion Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu,
"croesawu’r camau a gymerwyd i wneud Cymru’n genedl mwy cynaliadwy
” a rhoi yn ei le "gresynu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud cynnydd mewn dim ond 18 allan o 41 asesiad dangosydd posibl”.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailystyried eu dull o wneud Cymru’n genedl mwy cynaliadwy
”.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu bod llai na hanner y dangosyddion yn dangos gwelliant clir
”.
………………………