23/02/2010 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (180)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Chwefror 2010
Amser: 13.30

Cafodd Peter Black ei ethol fel Dirprwy Lywydd Dros Dro.

...…………………..

13.31
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 7, 9 a 10 yn ôl.

………………………

14.17
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………

14.49
Eitem 3: Datganiad Deddfwriaethol gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Mesur arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru)

………………………

15.15
Eitem 4: Cynnig i gymeradwyo’r rheoliadau: Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010

NDM4413 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

15.16
Eitem 5: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn y DU yn y Cyfrin Gyngor ynghylch yr ymrwymiad i leihau allyriadau carbon

NDM4412 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

……………………….

15.23
Eitem 6: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur.

NDM4352 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii), sy’n codi o ganlyniad iddo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

15.23
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu’r Cynulliad i drafod a chymeradwyo Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Diwylliant a Meysydd Eraill

NDM4422 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 7 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 23 Chwefror 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

15.24
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r Cynulliad drafod a chymeradwyo’r Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010

NDM4423 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 8 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 23 Chwefror 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

Gan nad oedd y Gweinidog dros Dreftadaeth yn bresennol, cynigiodd y Llywydd y dylid symud i eitem 8 cyn eitem 7. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad.

15.25
Eitem 8: Trafod a chymeradwyo’r Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010

NNDM4420 Leighton Andrews (Rhondda Cynon Taf)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010.

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Chwefror 2010;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4  ar y Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010 gerbron y Cynulliad ar 27 Ionawr 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

4.01
Eitem 7: Trafod a chymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill) 2009

NNDM4421 Alun Ffred Jones (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill) 2010.

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Chwefror 2010;

Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwylliant a Meysydd Eraill) 2009 gerbron y Cynulliad ar 6 Tachwedd 2009.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

Eitem 9: Dadl ar Ardaloedd Gwledig Anghysbell - gohiriwyd tan 2 Mawrth 2010

NDM4415 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r Adroddiad ar Ardaloedd Gwledig Anghysbell;

2. Yn cymeradwyo’r dull a gynigir o wireddu’r ymrwymiad i ardaloedd gwledig anghysbell yn 'Cymru’n Un' fel y’i amlinellwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig ar 15 Rhagfyr 2009.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 2, newid "cymeradwyo” i "nodi”.

Gwelliant 2 -Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn cydnabod yr effaith niweidiol ar gymunedau gwledig yn sgil y ffaith bod tafarndai a swyddfeydd post gwledig yn parhau i gau”.

Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymrwymo i waith tymor hir parhaol i wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig”.

………………………

Eitem 10: Dadl ar Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy - gohiriwyd tan 2 Mawrth 2010

NDM4414 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n croesawu’r camau a gymerwyd i wneud Cymru’n genedl mwy cynaliadwy, fel a ddangosir yn Nangosyddion Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileu, "croesawu’r camau a gymerwyd i wneud Cymru’n genedl mwy cynaliadwya rhoi yn ei le "gresynu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud cynnydd mewn dim ond 18 allan o 41 asesiad dangosydd posibl”.

Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailystyried eu dull o wneud Cymru’n genedl mwy cynaliadwy”.

Gwelliant  3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn gresynu bod llai na hanner y dangosyddion yn dangos gwelliant clir”.

………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 16.34

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30 ddydd Mercher 24 Chwefror 2010.

Ysgrifenyddiaeth y Siambr