Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (140)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2009
Amser:
13.30
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru Cafodd y Llywydd ei hysbysu, o dan Reol
Sefydlog 7.50, y byddai’r Dirprwy Brif Weinidog yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
………………………
14.24
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
14.41
Eitem
3: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r adolygiad o Addysg Uwch gan Merfyn Jones
………………………
15.40
Eitem
4: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Rhaglen y DU ar effeithiau newid hinsawdd 2009
………………………
16.18
Eitem
5: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (A) 2009
NDM4244 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) ( Diwygio) 2009 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2009.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
16.19
Eitem
6: Cynnig i gymeradwyo Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Mesur Tlodi Plant o dan Reol Sefydlog 26
NDM4246 Brian Gibbons (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Mesur Tlodi Plant, i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2009 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
36 |
0 |
8 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
16.39
Pwynt
o drefn gan Mike German - Gwaith craffu’r Cynulliad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
………………………
16.42
Eitem
7: Dadl ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Lles Cymdeithasol) 2009 a Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Eithriadau i Faterion) 2009, a’u cymeradwyo
NDM4247
Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Mehefin 2009.
Gosodwyd
adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 gerbron y Cynulliad ar 2 Ebrill 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 7.35.
NDM42478 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Eithriadau i Faterion) 2009
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Mehefin 2009.
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 gerbron y Cynulliad ar 2 Ebrill 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
…………………………