23/06/2009 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (140)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2009
Amser: 13.30

Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Cafodd y  Llywydd ei hysbysu, o dan Reol Sefydlog 7.50, y byddai’r Dirprwy Brif Weinidog yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.

………………………

14.24
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………

14.41
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r adolygiad o Addysg Uwch gan Merfyn Jones

………………………

15.40
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Rhaglen y DU ar effeithiau newid hinsawdd 2009

………………………

16.18
Eitem 5: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (A) 2009

NDM4244 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) ( Diwygio) 2009 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2009.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

16.19
Eitem 6: Cynnig i gymeradwyo Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Mesur Tlodi Plant o dan Reol Sefydlog 26

NDM4246 Brian Gibbons (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Mesur Tlodi Plant, i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2009 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

8

44

Derbyniwyd y cynnig.

………………………

16.39
Pwynt o drefn gan Mike German - Gwaith craffu’r Cynulliad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

………………………

16.42
Eitem 7: Dadl ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Lles Cymdeithasol) 2009 a Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Eithriadau i Faterion) 2009, a’u cymeradwyo


NDM4247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Mehefin 2009.

Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 gerbron y Cynulliad ar 2 Ebrill 2009.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

NDM42478 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Eithriadau i Faterion) 2009

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Mehefin 2009.

Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 gerbron y Cynulliad ar 2 Ebrill 2009.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

…………………………


Cyfnod Pleidleisio 17.26


Daeth y cyfarfod i ben am 17.27

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30 ddydd Mercher 24 Mehefin 2009

Ysgrifenyddiaeth y Siambr